Fel rhan o’n gwasanaeth asesu tinitws sydd ar y gweill, mae Hear Aberystwyth yn falch o gyhoeddi ei bod wedi partneru â Neuromod Devices yn Iwerddon i gynnig y ddyfais driniaeth tinitws newydd Lenire® yma yn y DU. Ar hyn o bryd, ni yw’r unig ganolfan yng Nghymru sy’n gallu cynnig y driniaeth hon.
Mae Lenire® wedi’i thrwyddedu i’w defnyddio yn y DU ac Ewrop, ac erbyn hyn, ar ôl mwy o dreialon clinigol helaeth, mae wedi’i thrwyddedu hefyd gan yr FDA i’w gwerthu yn yr Unol Daleithiau.
Yn y treialon clinigol, ar ôl 12 wythnos, cafodd 95% o’r cyfranogwyr a gwblhaodd y driniaeth ostyngiad yn eu sgoriau Tinnitus Handicap (THI), ac roedd 84% wedi profi gostyngiad yn eu Tinnitus Functional Index (TFI). *
Rydyn ni’n hynod gyffrous i fod yn rhan o gyflwyno’r gwasanaeth newydd hwn yn y DU – ac yn falch o roi Ceredigion ar y map fel y safle cyntaf yng Nghymru i gynnig y therapi hwn.
Wrth i ni gwblhau ein hyfforddiant ar dinitws ac orffen paratoi’r clinig newydd, cadwch lygad allan am y newyddion am lansiad y gwasanaeth cyffrous hwn.
Yn y cyfamser, os ydych chi’n awyddus i ddarllen mwy, ewch i’r ddolen hon:
Neuromod Devices | Neuromod Technology
* Conlon B, Hamilton C, Meade E. ac eraill. “Different bimodal neuromodulation settings reduce tinnitus symptoms in a large randomized trial.” Nature Scientific Reports (2022). 12, 10845 https://doi.org/10.1038/s41598-022-13875-x
