Am Hear
Busnes teuluol annibynnol yw Hear sy’n cynnig amryw o wasanaethau awdioleg, gan gynnwys profion clyw, cymhorthion clyw, amddiffyniad clyw, tynnu cwyr clust ac asesiadau tinitws, cyngor a therapïau. O’n clinigau yn Aberystwyth ac Aberteifi, ry’ ni’n gallu cynnig gwasanaeth awdioleg o’r radd flaenaf i drigolion Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Wedi’i sefydlu gan Nick a Bronwen Raine, yma yn Hear ry’ ni’n ymfalchïo yn ein darpariaeth ofal clyw arbenigol a chyfeillgar i’r gymuned leol. Yn glinig teuluol, ry’ ni’n deall pa mor bwysig yw clyw i fywyd bob dydd — o fwynhau sgwrs gydag anwyliaid i gael blas ar gerddoriaeth a natur.
Credwn fod pob claf yn haeddu sylw personol. Mae ein tîm cyfeillgar a phroffesiynol yn cymryd amser i esbonio eich opsiynau a sicrhau eich bod yn ein gadael gan deimlo’n hyderus am iechyd eich clyw.

Dewch i Gwrdd â’r Tîm

Nick Raine
Sylfaenydd ac Uwch Awdiolegydd

Bronwen Raine
Sylfaenydd

Megan Raine
Cydlynydd Clinig

Nicky Williams
Cydlynydd Clinig

Sophie Humphrey
Arbenigwr Tynnu Cwyr Clust a Myfyrwraig Awdioleg

Ian Rogers
Uwch Awdiolegydd

Caitlin Evans
Cydlynydd Clinig a Swyddog Marchnata
Sylfaenwyr Hear
Mae perchnogion y busnes, Nick a Bronwen Raine, wedi byw yng Ngorllewin Cymru ers 25 mlynedd. Mae gan Nick 24 mlynedd o brofiad ym maes awdioleg fel clinigwr mewn ysbytai ac ar y stryd fawr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi dal rolau uwch reoli, gan gynnwys Pennaeth Manwerthu gyda darparwr cymhorthion clyw cenedlaethol blaenllaw. Mae Bronwen, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Antur Cymru, wedi treulio 15 mlynedd yn cefnogi busnesau newydd a sefydledig ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan eu helpu i dyfu a llwyddo.
Mae profiad helaeth Nick wedi tynnu sylw at fwlch sylweddol yn y gwasanaethau ôl-ofal a ddarperir gan nifer o gystadleuwyr. Gan gydnabod bod gan gymhorthion clyw wasanaeth hir-oes a bod anghenion clyw cwsmeriaid yn esblygu dros amser, mae wedi ymrwymo i gynnig ôl-ofal cynhwysfawr i gwsmeriaid er sicrhau eu bod yn gallu cadw eu dyfeisiau yn y cyflwr gorau posib. Mae’r dull hwn yn gwarantu bod pob cwsmer yn derbyn gwerth go iawn am arian.

