Eich Arbenigwyr Clyw
Cwmni Lleol, Teuluol, Annibynnol

Yn cynnal cyswllt â'n gilydd

Yn Hear, ry’ ni’n darparu gofal clyw annibynnol, wedi’i deilwra i chi. Yn clinig awdioleg teuluol, ymfalchïwn yn y gwasanaeth personol ry’ ni’n ei ddarparu sy’n canolbwyntio ar y claf ac wedi’i seilio ar ymddiriedaeth, arbenigedd a gofal go iawn.
Ry’ ni’n rhoi’r amser i’ch deall chi. Hyn sydd wrth wraidd ein dull o ddarparu cyngor, cefnogaeth a datrysiadau wedi’u teilwra i’ch ffordd o fyw.
Ry’ ni’n deall bod mynd i’r afael â phroblemau clyw yn gallu bod yn anodd. Ond, po hiraf byddwch yn oedi, y mwyaf byddwch yn colli allan ar y byd o’ch cwmpas. Peidiwch â cholli eiliad arall.
Pam dewis Hear?
Ry’ ni’n gwrando
Mae ein clinig clyw teuluol yn canolbwyntio ar bobl. Yn ystod eich apwyntiad, byddwn yn rhoi’r amser i wrando a deall eich anghenion, egluro eich opsiynau’n glir, a darparu gofal arbenigol wedi’i deilwra i chi.
Ry’ ni’n gofalu
Os ydych yn profi colled clyw, tinitws, neu gwyr clust, yn chwilio am gymorth parhaus gyda chymhorthion clyw, neu eisiau amddiffyniad clyw ar gyfer gwaith neu hobiau swnllyd, mae ein tîm profiadol yma i helpu.
Ry’ ni’n buddsoddi
Yn busnes lleol balch gydag aelodau staff dwyieithog, ry’ ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein cymuned trwy ddarparu gofal clyw arbenigol ynghyd â chyfleoedd gyrfa i drigolion Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Ein Gwasanaethau

Asesiadau Clyw
Drwy brofion trylwyr a gofalus i ddeall eich clyw a rhoi cyngor clir, ry’ ni’n cynnig dau brif fath o asesiad yn seiliedig ar eich anghenion:
- Prawf Iechyd Clyw
- Asesiad Clyw Llawn

Cymhorthion Clyw
Gan gofleidio technolegau’r unfed-ganrif-ar hugain i wella eich clyw ry’ ni’n cynnig amrywiaeth o gymhorthion clyw o wahanol brisiau.
O opsiynau cynnil yn y glust i ddyfeisiau llawn nodweddion, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r dewis perffaith i chi.

Tynnu Cwyr Clust
Ffordd ddiogel ac effeithiol o dynnu cwyr clust ar gyfer clyw clir a chysurdeb.

Amddiffyniad Clyw
Datrysiadau a wneir yn arbennig ar gyfer gwaith, cerddoriaeth a ffordd o fyw actif.
Eich clinig Hear agosaf
Gyda lleoliadau yn Aberystwyth ac Aberteifi, ein nod yw darparu apwyntiadau cyfleus yn ein clinigau i drigolion ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dewiswch eich clinig lleol a darganfyddwch sut gallwn eich helpu.
