Cyfarpar Amddiffyn Clyw
Gall colli clyw a achosir gan sŵn fod yn barhaol ac efallai y bydd tinitws hefyd yn cyd-fynd ag ef. Mae hyn yn digwydd pan fyddwch chi’n agored i leoedd sydd â lefel gormodol o sŵn neu synau dros 85dBa am gyfnod estynedig.
Trwy ddefnyddio plygiau clust wedi’u mowldio’n arbennig, wedi’u teilwra’n unigol i ffitio’ch clustiau, ynghyd â hidlwyr gweithredol neu oddefol, gallwn ddarparu’r ateb mwyaf effeithiol i chi i ddiwallu’ch anghenion. Boed hynny’n gweithio mewn gweithle swnllyd, gyda drylliau, chwarae cerddoriaeth uchel, DIY a garddio, neu os ydych ond eisiau rhywbeth i’ch helpu i gysgu, rydym yma i ddod o hyd i’r ateb gorau ar eich cyfer chwi.
Beth am drefnu apwyntiad ar gyfer ymgynghoriad a chael cyngor gan un o’n harbenigwyr?
Ddim yn siŵr a fyddech chi’n elwa o gyfarpar amddiffyn y clyw neu pa fathau o blygiau clust fyddai’n addas i chi? Dyma rai syniadau ynglŷn â’r hyn sydd ar gael.

Saethu
Mae gwahanol gyfarpar amddiffyn clyw wedi’u cynllunio i ddiogelu eich clyw ac wedi’u teilwra’n bwrpasol ar gyfer gwahanol fathau o weithgareddau saethu. Mae’r opsiynau mwyaf datblygedig yn darparu amddiffyniad gweithredol ac yn chwyddo sŵn, gan eich galluogi i wisgo’r cyfarpar amddiffyn trwy’r dydd wrth sgwrsio gyda’r rhai o’ch cwmpas.

Cerddorion
Gellir gwarchod eich clyw trwy wisgo hidlwyr arbenigol pan fyddwch chi’n chwarae neu’n gwrando ar gerddoriaeth. Mae’r hidlwyr hyn yn cynnal ansawdd y gerddoriaeth heb ganiatáu iddo gyrraedd lefelau niweidiol. Mae monitorau clust personol hefyd ar gael i’r rhai sy’n chwilio am y profiad gwrando ar glustffonau o’r ansawdd uchaf.

Beicwyr modur
Gall sŵn gwynt a synau traffig niweidio clyw beicwyr modur. Mae cyfarpar amddiffyn clust wedi’i wneud yn arbennig yn hanfodol gan fod angen iddo ffitio’n gyfforddus o dan helmed. Yn ogystal, mae atodiadau ar gyfer dyfeisiau cyfathrebu ar gael, gan ganiatáu i feicwyr sgwrsio wrth yrru.

Plygiau Cwsg
Mae angen plygiau cwsg ar rai unigolion oherwydd eu bod yn deffro’n hawdd, hyd yn oed gyda synau lefel isel. Mae’r plygiau cwsg pwrpasol hyn wedi’u cynllunio ar gyfer eu gwisgo am gyfnod estynedig heb rwystro sain yn llwyr. Mae’n bwysig clywed synau hanfodol fel mwg neu larymau tân. Maent yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer gweithwyr sifft sydd angen cysgu yn ystod sŵn y dydd neu pan ar daith awyren hir i gau allan synau sy’n tarfu.

Plygiau Nofio
Mae nofio yn weithgaredd pleserus, ond gall cyswllt parhaus arwain ar ddŵr yn y clustiau, gan gynyddu’r risg o haint. Er bod mewnosodiadau sbwng fel arfer i’w cael mewn pyllau nofio, datrysiadau pwrpasol sydd yn cynnig yr amddiffyniad gorau. Gan ddefnyddio’r un deunyddiau a dulliau gweithgynhyrchu, mae’r plygiau clust hyn hefyd yn boblogaidd gyda chleientiaid sydd angen atal dŵr rhag mynd mewn i’r glust oherwydd cyflyrau sy’n bodoli eisoes fel tympan trydyllog y glust.