Pecynnau Cymorth Clyw
Mae clyw clir yn arwain at feddwl clir. Os ydych chi’n profi anawsterau clyw, mae’n hanfodol ceisio gofal proffesiynol a phrofi’ch clyw— gorau po gyntaf. Mae cymhorthion clyw nid yn unig yn gwella eich clyw ond hefyd yn cefnogi iechyd gwybyddol a lles cyffredinol. Yn Hear Aberystwyth, rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i ddod o hyd i’r ateb perffaith bwrpasol ar gyfer eich anghenion unigryw chi.
Rydym yn cynnig ystod eang o ddatrysiadau clyw pwrpasol yn ein clinigau annibynnol yn Aberystwyth a Chastell Newydd Emlyn. Mae ein pecynnau cymorth clyw yn rhoi’r rhyddid i chi ddewis o’r arddulliau a’r dechnoleg ddiweddaraf gan wneuthurwyr blaenllaw, gyda chefnogaeth ôl-ofal cynhwysfawr a manteision ychwanegol i sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch cymhorthion clyw.
Archebwch eich ymgynghoriad personol gydag un o’n awdiolegwyr arbenigol heddiw a chymerwch y cam cyntaf tuag at wella’ch clyw.
Your Title Goes Here
Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.
1. Hear Elite
Mae ein pecyn Hear Elite yn cynnig technoleg clyw o’r radd flaenaf i unigolion sy’n ceisio’r perfformiad gorau sydd ar gael. Yn cynnwys y datblygiadau diweddaraf gan wneuthurwyr blaenllaw’r diwydiant, mae’r pecyn hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dibynnu ar eu clyw mewn amgylcheddau heriol, megis gwaith, cerddoriaeth, neu lywio seinluniau cymhleth.
Pris: £5,450 y pâr
Yn cynnwys:
- Dau Gymhorthydd clyw technoleg orau
Dewiswch o dderbynnydd yn nhiwb y glust (RIC) ailwefradwy, modelau y tu ôl i’r glust (BTE), neu oddi mewn i’r glust (ITE), offer gyda meicroffonau datblygedig, sy’n lleihau sŵn cefndir, ag sydd â chysylltedd di-wifr i ffonau smart ac ategolion.
Yn cynnwys gwarant 5 mlynedd * (cymhorthion clyw yn unig, derbynyddion allanol a nwyddau traul heb eu cynnwys).
- Dewis o Ategolyn Amlbwrpas + 25% oddi ar Ategolion Ychwanegol,
Dewiswch o offer pwerus fel y Starkey Table Mic neu Widex Sound Assist – perffaith ar gyfer gwella’r clyw mewn amgylcheddau cymhleth. Byddwch hefyd yn mwynhau 25% oddi ar unrhyw ategolion ychwanegol.
- Gosod Cymorth Clyw & Mireinio
Manteisiwch ar osod arbenigol a mireinio, gan gynnwys mesuriadau clust go iawn ar gyfer mwyhau’r sŵn yn fanwl gywir yn ôl eich presgripsiwn clyw.
- Ôl-ofal Premiwm am Oes
Cefnogaeth barhaus i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i’ch cymhorthion clyw newydd, gyda mynediad blaenoriaethol i’r dechnoleg ddiweddaraf a’r opsiynau cymorth o bell.
- Dileu cwyr clust diderfyn am 5 mlynedd
Sicrhau a chynnal iechyd clust iach trwy dynnu cwyr clust proffesiynol am bum mlynedd.
2. Hear Advanced
Mae ein pecyn Hear Advanced yn cyfuno perfformiad rhagorol gyda’r dechnoleg cymorth clyw diweddaraf, gan ei wneud y dewis mwyaf poblogaidd i’r rhai sydd â ffyrdd egnïol o fyw ac sy’n aml yn cael eu hunain mewn amgylcheddau swnllyd.
Pris: £4,300 y pâr
Yn cynnwys:
- 2 Gymhorthydd clyw technoleg orau
Gellir ei addasu ar gyfer eich anghenion penodol, gyda nodweddion datblygedig i’ch helpu mewn amgylcheddau gwrando heriol. Yn cynnwys gwarant 5 mlynedd * (cymhorthion clyw yn unig, derbynyddion allanol a nwyddau traul heb eu cynnwys). - Ôl-ofal Premiwm am 5 Mlynedd
Gofal cynhwysfawr i sicrhau bod eich cymhorthion clyw bob amser yn perfformio ar eu gorau. - Apwyntiad Tynnu Cwyr Clust am ddim blynyddol dros 5 mlynedd
Cadwch eich clustiau yn iach trwy dynnu cwyr clust proffesiynol yn rheolaidd.
- 5% oddi ar Ategolion Ychwanegol
Arbedwch ar ategolion ychwanegol er mwyn gwella eich profiad clyw ymhellach.
3. Hear Enhanced
Hear Enhanced yw ein pecyn lefel canolig -yn ddelfrydol ar gyfer unigolion â ffyrdd egnïol o fyw sy’n aml yn dod ar draws amgylcheddau swnllyd. Mae’r cymhorthion clyw hyn yn cynnig nodweddion arloesol i wella’ch gallu i glywed mewn sŵn cefndir a sefyllfaoedd heriol eraill.
Pris: £3,500 y pâr
Yn cynnwys:
- 2 Gymhorthydd clyw technoleg lefel ganolig
Wedi’i gynllunio i ddiwallu eich anghenion clyw penodol gyda nodweddion datblygedig ar gyfer amgylcheddau gwrando cymhleth. Mae’n cynnwys gwarant 5 mlynedd. - Ôl-ofal am 5 mlynedd
Cefnogaeth barhaus ac addasiadau i gadw’ch cymhorthion clyw yn gweithio ar eu gorau.
4. Hear Essential
Hear Essential yw ein pecyn lefel mynediad, sy’n cynnig ystod o nodweddion hanfodol am bris fforddiadwy. Mae’r cymhorthion clyw hyn yn berffaith ar gyfer unigolion sy’n profi amgylcheddau gwrando cymhleth o bryd i’w gilydd ac sydd angen cefnogaeth ddibynadwy.
Pris: £2,750 y pâr
Yn cynnwys:
- 2 Cymhorthydd Clyw Technoleg Lefel Mynediad
Wedi’u cynllunio i ddiwallu eich anghenion clyw sylfaenol. Yn cynnwys gwarant 5 mlynedd a rhaglen ôl-ofal.