Tynnu Cwyr Clust

Tynnu Cwyr Clust yn Ddiogel ac â Thynerwch yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Mae clustiau wedi’u blocio gan gwyr yn gyflwr cyffredin iawn a gall effeithio ar glyw, cydbwysedd a chysur. Yn Hear, rydym yn darparu gwasanaeth tynnu cwyr clust proffesiynol a gofalus gan ddefnyddio technegau modern, yn seiliedig ar dystiolaeth, mewn amgylchedd tawel a chyfeillgar.

Fel clinig teuluol, ry’ ni’n cymryd amser i sicrhau eich bod yn wybodus, yn gyfforddus ac yn hyderus bob cam o’r ffordd.

Oes Angen i Mi Baratoi Fy Nghlustiau Cyn Fy Apwyntiad?

Oes – mae paratoi eich clustiau’n iawn yn helpu i dynnu’r cwyr yn ddiogelach, yn gyflymach, ac yn fwy cyfforddus i chi.

Argymhellwn defnyddio chwistrell neu ddiferion olew olewydd unwaith neu ddwywaith y dydd am 3–5 diwrnod cyn eich apwyntiad, oni bai bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn eich cynghori fel arall. 

Os yw’ch clustiau’n boenus, yn rhedeg neu’n amau bod gennych ​​haint, rhowch wybod i ni cyn eich apwyntiad.

Beth Sy'n Digwydd Yn Ystod Eich Apwyntiad?

1. Hanes Iechyd y Glust

Ry’ ni’n dechrau trwy drafod:  

  • Hanes eich clust a’ch clyw
  • Unrhyw broblemau neu lawdriniaeth flaenorol i’ch clust
  • Symptomau fel poen, pendro, tinnitus, neu’r glust yn rhedeg
  • Unrhyw gyflyrau meddygol a allai effeithio ar y driniaeth  

Mae hyn yn ein helpu i benderfynu ar y dull mwyaf diogel a phriodol i chi.

2. Fideo Otosgopi

Rydym yn defnyddio fideo otosgopi i edrych y tu mewn i gamlas eich clust gan ddefnyddio camera bach. Mae hyn yn ein galluogi i:  

  • Weld yn glir y cwyr sydd wedi cronni
  • Archwilio iechyd camlas eich clust a drwm y glust
  • Ddangos y delweddau i chi ar y sgrin (os dymunwch)
  • Benderfynu ar y dull mwyaf addas i dynnu cwyr  

Mae’r archwiliad gweledol hwn yn gam diogelwch pwysig ac yn helpu cleifion i deimlo’n dawel eu meddwl ac yn rhan o’r broses.

3. Tynnu Cwyr Clust

Ry’ ni’n cynnig dau dechneg proffesiynol i dynnu cwyr yn seiliedig ar iechyd eich clust, math o gwyr, a chysur personol.

1. Microsugno

Ein dull mwyaf poblogaidd.

Mae microsugno yn dechneg ddiogel, fanwl gywir a thyner sy’n defnyddio dyfais sugno feddygol fach i gael gwared â chwyr o dan arweiniad gweledol uniongyrchol.

Buddion Microsugno: 

  • Cyflym ac effeithiol
  • Dim defnydd ar ddŵr
  • Yn addas ar gyfer y mwyafrif o gleifion
  • Yn berffaith ar gyfer y rhai hynny â phroblemau clust blaenorol
  • Yn caniatáu rheolaeth gweledol rhagorol

Ystyrir microsugno’n gyffredinol fel y safon aur ar gyfer gwaredu cwyr clust.

2. Dyfrhau â Dŵr

Mae dyfrhau â dŵr yn broses sy’n defnyddio llif rheoledig o ddŵr cynnes i olchi’r cwyr meddal yn ofalus o gamlas y glust.

Gall y dull hwn fod yn addas os:

  • Mae’r cwyr wedi’i feddalu’n ddigonol gydag olew
  • Nad oes hanes llawdriniaeth na thyllau ar y glust
  • Nad yw microsugno’n briodol nac yn cael ei ffafrio  

Defnyddiwn systemau dyfrhau modern, rheoleiddiedig  yn unig a’u gweithredu o fewn canllawiau diogelwch llym.

4. Cyngor Ȏl-ofal

Ar ôl tynnu cwyr, byddwn yn darparu canllawiau ôl-ofal clir a all gynnwys:  

  • I gadw’r clustiau’n sych am gyfnod byr
  • I osgoi defnyddio offer glanhau clust megis bydiau cotwm
  • Cyngor ar ofal clust parhaus a rheoli cwyr

Os oes angen, gallwn hefyd gynnig cyngor ar strategaethau tymor hir atal cwyr.

Tynnu Cwyr Clust: Cwestiynau Cyffredinol 

Don't delete

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Pryd ddylwn i fynd ati i dynnu cwyr clust, a phwy all elwa o wneud?

Os yw eich clustiau’n teimlo fel petaent wedi’u blocio, yn cosi neu’n anghyfforddus, neu os ry’ch chi’n cael trafferth clywed, yn teimlo bod eich clustiau’n llawn ar ôl bod mewn cysylltiad â dŵr, yn clywed canu yn eich clustiau, yn dioddef poen yn eich clust, neu hyd yn oed yn defnyddio cymhorthion clyw sydd ddim yn gweithio’n iawn, efallai bod cwyr wedi cronni yn eich clust sydd angen ei dynnu gan weithiwr proffesiynol. 

Ydy tynnu cwyr clust yn boenus?

Mae tynnu cwyr clust gan weithiwr proffesiynol fel arfer yn ddi-boen, er gall rhai pobl deimlo bach o anesmwythder neu wasgu yn ystod y broses. Mae gweithwyr cymwys wedi’u hyfforddi i leihau’r anesmwythder gan weithredu’r broses yn dyner ac yn ddiogel. 

Faint mae tynnu cwyr clust yn ei gymryd?

Mae hyd y driniaeth yn amrywio ac yn dibynnu ar ddifrifoldeb y cronni a’r technegau a ddefnyddir. Yma yn Hear, ry’ ni’n neilltuo hyd at 60 munud ar gyfer yr apwyntiad ond,  fel arfer, mae’n cymryd rhwng 15 a 30 munud. Mewn rhai achosion bydd angen mwy nag un ymweliad. Os oes angen rhagor o driniaeth, mae’r apwyntiadau dilynol yn rhad ac am ddim. 

Pa mor aml ddylai gweithiwr proffesiynol dynnu cwyr o’m clust?

Mae’r amlder yn dibynnu ar ffactorau megis faint o gwyr mae’r glust yn cynhyrchu a chyflyrau isorweddol.  I rai, efallai bydd angen tynnu cwyr bob ychydig fisoedd, tra i eraill,  ond unwaith y flwyddyn. Y peth gorau yw cael cyngor personol gan weithiwr cymwys.

Yma yn Hear, ry’ ni’n annog ein cleifion i ddod atom i gael archwiliad trwy gydol y flwyddyn, yn ôl y cyngor a roddwyd i chi. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i chi ddod i adnabod eich clustiau a gweithredu cyn i’ch clyw gael ei effeithio. 

Oes modd i fi atal cwyr clust rhag cronni?

Er na fedrwch atal croniad cwyr clust yn llwyr mae’n bosib cymryd camau i leihau cronni gormodol.  

  • Peidiwch â defnyddio bydiau cotwm neu wrthrychau eraill i lanhau eich clustiau. Gall rhain wthio’r cwyr yn ddyfnach a blocio’r clustiau.
  • Ceisiwch leihau eich cysylltiad ag amgylcheddau llychlyd.
  • Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio plygiau cerddoriaeth a bydiau cotwm – pethau sy’n peri i gwyr i gronni.
  • Gall amgylcheddau cynnes gynyddu cynhyrchiant cwyr.

Os ry’ chi’n  tueddu i gynhyrchu gormod o gwyr clust, mae defnyddio iraid fferyllol yn ffordd syml ac effeithiol o’i reoli ac yn hwyluso’r broses o’i dynnu yn ogystal â chynnal iechyd y clustiau.

Mae croeso i chi gysylltu â ni am ragor o wybodaeth am gynnyrch addas. 

A fedra’i dynnu cwyr clust gartre?

Gall yr amrywiol ffyrdd o dynnu tynnu cwyr eich hunan fod yn aneffeithiol ac, o bosib, yn beryglus  drwy godi’r risg o anaf neu haint. Er enghraifft, gall bydiau cotwm wthio’r cwyr yn ddyfnach a niweidio’r bilen glust. Gall canhwyllau clust achosi llosgiadau, ac nid yw eu heffeithlonrwydd wedi’i brofi’n wyddonol. Mae’n well gadael y gwaith o dynnu cwyr i weithwyr proffesiynol sydd â’r wybodaeth, y profiad a’r offer arbenigol i waredu cwyr yn ddiogel ac yn effeithiol. 

Ydi’r GIG yn cynnig gwasanaeth tynnu cwyr clust?

Ers 2018, mae’r rhan fwyaf o ganolfannau meddygon teulu’r GIG wedi rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth tynnu cwyr yn rheolaidd.  Yng Ngheredigion, dim ond dau glinig dan adain y GIG sy’n cynnig y gwasanaeth hwn bellach – Aberaeron a Chaerfyrddin. 

Yma yn Hear, ry’ ni’n deall pa mor bryderus yw hi pan fydd eich clyw yn gwaethygu’n sydyn oherwydd gormod o gwyr. Ry’ ni wedi ymrwymo i gynnig apwyntiadau cyflym – yn aml ar yr un diwrnod – i’ch cefnogi chi ac iechyd eich clustiau. 

Faint mae tynnu cwyr clust yn ei gostio?

Yn Hear, mae tynnu cwyr yn costio £50 am un glust a £70 am y ddwy glust. Os na allwn tynnu’r cwyr i gyd yn ystod yr ymweliad cyntaf mae’r apwyntiadau dilynol yn rhad ac am ddim.