Asesiadau Clyw
Os ydych chi’n amau bod gennych golled clyw, mae Hear Aberystwyth yn cynnig cyfleusterau asesu clyw mewn bwth gwrthsain yn ein clinig awdioleg.
Yn wahanol i rai clinigau, mae ein awdiolegwyr medrus yn profi eich galluoedd i glywed synau ac i brosesu lleferydd, gan sicrhau canlyniadau cywir ac ystyrlon.
Mae Hear Aberystwyth yn blaenoriaethu datblygu dealltwriaeth unigryw o’ch gofynion gofal clyw personol. Gyda’n gilydd, byddwn yn gosod nodau ac yn gweithio tuag at ailgysylltu â’r synau sy’n bwysig i chi. Dyma sut y gallwn helpu gyda’ch clyw:
Rydym yn cynnig tri math gwahanol o asesiadau clyw i ddiwallu eich anghenion unigol:
- Gwiriad Iechyd Clyw: Yn ddelfrydol ar gyfer trosolwg byr o’ch iechyd clyw.
- Asesiad Awdiometreg yn y Gweithle: Ar gyfer y rhai sydd angen canlyniadau profion clyw at ddibenion cyflogaeth.
- Asesiad Clyw Llawn: Asesiad cynhwysfawr ar gyfer dealltwriaeth fanwl o’ch galluoedd clyw a thrafodaeth ar atebion wedi’u teilwra.

Your Title Goes Here
Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.
1. Asesiad Clyw Llawn (Appwyntiad 1.5-2 awr)
Asesiad clyw llawn yw ein prawf clyw mwyaf cynhwysfawr, yn cynnig gwerthusiad trylwyr sy’n mynd y tu hwnt i’r hanfodion. Mae ein dull integredig yn casglu pob manylyn o’ch iechyd clyw, gan gyflwyno cynllun pwrpasol i fynd i’r afael â phob agwedd ar eich anghenion clywedol.
Pryd i drefnu apwyntiad:
- Os ydych wedi cael diagnosis o golled clyw.
- Os ydych chi’n defnyddio datrysiad clyw gan ddarparwr arall ac yn ceisio gwelliant.
- Os ydych chi’n profi tinitws.
- Os ydych chi’n teimlo bod gennych golled clyw ac eisiau archwilio opsiynau ac atebion.
Hyd: 1.5-2 awr
Mae ein hasesiad clyw llawn yn cynnwys:
Ymgynghoriad Clyw
- Bydd ein awdiolegydd yn trafod eich ffordd o fyw ac effaith colli clyw ar weithgareddau dyddiol, o sgyrsiau i lywio lleoedd.
- Rydym yn cymryd yr amser i ddeall eich ffordd o fyw a’ch blaenoriaethau allweddol, gan gynnwys hanes meddygol perthnasol.
Archwiliad Iechyd y Glust
- Rydym yn archwilio’r tu allan a’r tu mewn i’ch clustiau gan ddefnyddio fideo otosgop sy’n galluogi’r claf a’r awdiolegydd i’w weld mewn amser real.
- Rydym yn gwirio symudiad tympan y glust i sicrhau bod popeth yn gweithio’n gywir.
- Os oes gormodedd o gwyr yn y glust/iau, byddwn yn ei dynnu os yn bosibl.
Asesiad Trothwyon Clyw
- Awdiometreg tôn bur gyflawn (dargludiad aer a dargludiad esgyrn) a masgio, os oes angen, i benderfynu ar eich trothwyon clyw.
- Mae ein profion yn canfod y synau meddalaf y gallwch eu clywed ar draws amleddau amrywiol, gan roi darlun clir o’ch gallu i glywed.
Profion Deallusrwydd Lleferydd
- Mae ein profion yn gwahaniaethu rhwng clywed synau a deall lleferydd mewn amgylcheddau tawel a swnllyd.
- Mae profion manwl yn asesu eich gallu i ddirnad a dehongli lleferydd dan wahanol amodau.
Asesiad Cymorth Clyw Byw
- Lle bo’n fuddiol, rydym yn cynnal asesiad byw i werthuso eich ymateb i fwyhau sain cymorth clyw a’ch galluogi i glywed y gwahaniaeth.
- Mae asesiad cymorth clyw byw yn gymorth i ni fedru argymell y dechnoleg fwyaf addas ac yn rhoi argraff gyntaf i chi o’r manteision cyraeddadwy..
Adroddiad Clyw
- Mae Hear Aberystwyth yn darparu adroddiad clyw cynhwysfawr, gan ddarparu mewnwelediad a manylion am ganlyniadau eich profion, ynghyd ag argymhellion ar gyfer cynlluniau triniaeth posib.
- Byddwn yn gwneud atgyfeiriadau at weithwyr meddygol proffesiynol eraill os oes angen.
2. Gwiriad Iechyd Clyw (Appwyntiad 15-20 munud)
Gall archwiliad iechyd clyw cyflym 15-20 munud benderfynu a oes angen ymchwiliad pellach neu asesiad clyw diagnostig llawn.
Os ydych chi’n 50+ oed ac erioed wedi cael prawf clyw, neu os ydych chi’n amau’ch bod yn colli eich clyw ond yn ansicr, mae Gwiriad Iechyd Clyw Hear Aberystwyth yn ffordd wych o wirio eich iechyd clyw.
Pryd i drefnu apwyntiad:
- Os ydych chi eisiau archwiliad cyflym a hawdd ar eich iechyd clyw.
- Os ydych chi’n amau eich bod yn colli eich clyw ac angen cyngor.
Mae ein gwiriad iechyd clyw yn cynnwys:
Archwiliad o’r Glust
- Rydym yn archwilio’r tu allan a’r tu mewn i’ch clustiau gan ddefnyddio fideo otosgop, sydd yn galluogi’r claf a’r awdiolegydd i’w weld mewn amser real.
Prawf Sgrinio Clyw
- Rydym yn cynnal sgan i benderfynu a oes unrhyw golled clyw.
Argymhellion
- Bydd eich gweithiwr gofal clyw proffesiynol yn egluro canlyniadau eich profion ac yn darparu argymhellion ar gyfer ymchwiliad pellach neu asesiad clyw diagnostig llawn os oes angen.
Archebwch nawr ar-lein.
3. Asesiad yn y Gweithle neu atgyfeiriad Meddyg Teulu/ENT – apwyntiad 60 munud
Cost £100
Pryd i drefnu apwyntiad:
- Pan ofynnir i chi ddarparu asesiad awdiometreg gan feddyg teulu neu ENT, neu gan gyflogwr.
Archwiliad Iechyd y Glust
- Rydym yn archwilio’r tu allan a’r tu mewn i’ch clustiau gan ddefnyddio fideo otosgop, sydd yn galluogi’r claf a’r awdiolegydd i’w weld mewn amser real.
- Rydym yn gwirio symudiad tympan y glust i sicrhau bod popeth yn gweithio’n gywir.
- Os oes gormodedd o gwyr yn y glust/iau, byddwn yn ei dynnu os yn bosibl.
Asesiad Trothwyon Clyw
- Awdiometreg tôn bur gyflawn (dargludiad aer a dargludiad esgyrn) a masgio, os oes angen, i benderfynu ar eich trothwyon clyw.
- Mae ein profion yn canfod y synau meddalaf/isaf y gallwch eu clywed ar draws amleddau amrywiol, gan roi darlun clir o’ch gallu i glywed.
Profion Deallusrwydd Lleferydd
- Mae ein profion yn gwahaniaethu rhwng clywed synau a deall lleferydd mewn amgylcheddau tawel a swnllyd.
- Mae profion manwl yn asesu eich gallu i ddirnad a dehongli lleferydd mewn gwahanol amodau.
Adroddiad Clyw
- Mae Hear Aberystwyth yn darparu adroddiad clyw cynhwysfawr, gan ddarparu mewnwelediad a manylion am ganlyniadau eich profion, ynghyd ag argymhellion ar gyfer cynlluniau triniaeth posib.
- Byddwn yn gwneud atgyfeiriadau at weithwyr meddygol proffesiynol eraill os oes angen.
Asesiad Clyw Llawn neu Wiriad Iechyd Clyw – Pa brawf clyw sy’n addas i chi?
Mae ein hasesiadau clyw yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i’ch iechyd clyw. Cynhelir yr ymgynghoriadau hyn gan ein gweithwyr proffesiynol gofal clyw arbenigol, ac mae’r ymgynghoriadau hyn yn cynnwys argymhellion a chyngor personol ar gyfer cefnogi neu wella eich lles clywedol.