Tynnu Cwyr o’r Glust
Yn Hear Aberystwyth, rydym yn darparu symud cwyr clust diogel, cyfforddus ac effeithiol, a berfformir gan weithwyr proffesiynol gofal clyw cwbl gymwysedig yn ein clinig.
Mae ein awdiolegwyr achrededig a’n cynorthwywyr gofal clyw yn defnyddio’r system microsugno ddiweddaraf i gael gwared â chwyr clust yn gyfforddus. Yn ddibynnol ar eich anghenion penodol, gallent hefyd ddyfrhau’r glust (a elwir hefyd yn chwistrellu clust neu lanhau clust) neu dynnu cwyr ag offer llaw pan fydd yn ddiogel ac yn briodol.
Yn ogystal, mae ein harbenigwyr yn cynnig gwiriad clyw ac iechyd clust yn rhad ac am ddim. Os canfyddir unrhyw golled clyw, byddwn yn eich cyfeirio am brawf clyw diagnostig llawn.
I ddathlu agor ein clinig newydd yn Aberystwyth, rydym yn cynnig gostyngiad o 10% am gyfnod cyfyngedig, i gael gwared â chwyr clust. Defnyddiwch y cod cynnig HEAR10 yn ystod eich apwyntiad.


Rydym yn cynnig gwasanaeth tynnu cwyr o’r glust cyflym, gydag apwyntiadau ar yr un diwrnod neu’r diwrnod wedyn ar gael yn aml, gan gynnwys penwythnosau.
I helpu i feddalu cwyr clust cywasgedig, rydym yn argymell defnyddio diferion sodiwm deucarbonad neu olew olewydd am ddau i dri diwrnod cyn eich apwyntiad. Os na allwn gael gwared ar y gormodedd cwyr yn ystod eich ymweliad cyntaf, bydd yr apwyntiadau dilynol yn rhad ac am ddim.
Cwestiynau Cyffredin Tynnu Cwyr o’r Glust
Don't delete
Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.
Pryd ddylwn i geisio tynnu cwyr o’r glust a phwy all elwa?
Os yw’ch clustiau’n teimlo’n llawn, yn cosi neu’n anghyfforddus, neu os ydych chi’n cael trafferth clywed, yn teimlo wedi blocio ar ôl bod mewn dŵr, canu yn y clustiau, pigyn clust, neu hyd yn oed yn gwisgo cymorth clyw nad yw’n gweithio’n iawn, efallai bod gennych gwyr clust wedi crynhoi sydd angen ei dynnu yn broffesiynol.
A yw tynnu cwyr clust yn boenus?
Yn gyffredinol, nid yw tynnu cwyr clust proffesiynol yn boenus, er y gall rhai unigolion brofi anghysur neu bwysedd ysgafn yn ystod y driniaeth. Mae gweithwyr proffesiynol cymwys yn cael eu hyfforddi i leihau unrhyw anghysur a sicrhau proses dynnu ysgafn a diogel.
Pa mor hir mae yn ei gymryd i dynnu cwyr clust?
Mae hyd y driniaeth yn amrywio- yn seiliedig ar ddifrifoldeb y cronni cwyr a’r technegau a ddefnyddir. Fel arfer mae’n cymryd rhwng 15 a 30 munud. Efallai y bydd rhai achosion yn gofyn am nifer o ymweliadau neu fwy o driniaethau. Yn Hear Aberystwyth, mae ein hapwyntiadau fel arfer yn cymryd 45 munud ac yn cynnwys gwiriad clyw ac iechyd clust am ddim. Os oes angen mwy o driniaethau bydd yr apwyntiadau dilynol yn rhad ac am ddim
Pa mor aml ddylwn i gael tynnu cwyr clust proffesiynol?
Mae hyn yn dibynnu ar ffactorau megis faint o gwyr clust mae unigolyn yn ei gynhyrchu ac unrhyw gyflwr iechyd isorweddol. Efallai y bydd rhai pobl angen ei dynnu bob ychydig fisoedd, tra y bydd eraill efallai ond ei angen unwaith neu ddwywaith y flwyddyn yn unig. Ymgynghori â gweithiwr proffesiynol cymwys ar gyfer argymhellion personol sydd orau.
A allaf atal cwyr clust rhag cronni?
Er na allwch atal cynhyrchu cwyr clust yn llwyr, gallwch gymryd camau i leihau cronni gormodol. Dylech osgoi defnyddio ffyn gwlân cotwm neu wrthrychau eraill i lanhau’ch clustiau oherwydd gallent wthio cwyr yn ddyfnach a chreu rhwystrau. Yn hytrach, glanhewch y rhan allanol o’ch clustiau yn ysgafn gyda lliain golchi neu hances bapur. Os ydych chi’n dueddol o gael gormodedd o gwyr clust, ymgynghorwch â gweithiwr proffesiynol i gael cyngor ar fesurau ataliol neu feddalyddion cwyr clustiau addas.
Ydw i'n gallu tynnu cwyr clust fy hun gartref?
Gall dulliau DIY ar gyfer tynnu cwyr clust fod yn aneffeithiol ac o bosibl yn beryglus, gyda pherygl o anaf neu haint. Gall ffyn gwlân cotwm, er enghraifft, wthio cwyr yn ddyfnach a niweidio tympan y glust. Gall canhwyllau clust achosi llosgiadau ac nid oes prawf gwyddonol eu bod yn effeithiol. Mae’n well gadael tynnu cwyr clust i weithwyr proffesiynol sydd â’r wybodaeth, y profiad a’r offer arbenigol i ddileu cwyr sy’n cronni yn ddiogel ac yn effeithiol.
Ydy'r GIG yn cynnig tynnu cwyr clust?
Ers 2018, mae’r rhan fwyaf o feddygfeydd meddygon teulu’r GIG wedi rhoi’r gorau i ddarparu tynnu cwyr clust yn rheolaidd. Yng Ngheredigion erbyn hyn, dim ond dau glinig sy’n darparu tynnu cwyr yn lle’r gwasanaeth unwaith y’i cynigir ym mhob meddygfa yn y sir. I gael apwyntiad cyflym a rhyddhad buan, yna cysylltwch â’n tîm yn Hear Aberystwyth.
Beth yw cost tynnu cwyr clust?
Mae pris tynnu cwyr clust yn dechrau ar £45 am un glust a £70 am y ddwy glust, gan gynnwys gwiriad iechyd clyw am ddim. Mae apwyntiadau dilynol yn rhad ac am ddim os nad yw’r holl gwyr sy’n cronni yn cael ei dynnu yn yr ymweliad cyntaf.
Beth yw'r archwiliad iechyd clyw di-dal?
Mae holl gwsmeriaid tynnu cwyr clust Hear Aberystwyth hefyd yn derbyn sgrinio awdiometreg 4 pwynt, fideo otosgop a phrawf tympanometreg i asesu iechyd cyffredinol y glust ar ddiwedd eu hapwyntiad.
Ymhle allaf gael tynnu cwyr clust?
Mae ein clinig wedi’i leoli yn xxxxx, Aberystwyth. Archebwch ar-lein, ymholi’n bellach neu godi’r ffôn i wneud apwyntiad.